Job Cymru
*
*
 

Tinopolis

TinopolisTinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, yw’r cwmni cynhyrchu teledu mwyaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain, yn ôl arolwg gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghylchrawn Broadcast.

Mae yna dair prif rhan i’r busnes - yr adran gynhyrchu rhaglenni sy’n gweithio i gleientiaid nid yn unig yng Nghymru a Lloegr, ond hefyd i ddarlledwyr ar gyfandir Ewrop a’r Iwerddon, yr adran animeiddio sydd o dan ofal Dave Edwards creawdwr cyfresi poblogaidd megis Superted a Hot Rod Dogs a’r adran rhyngweithiol sy’n darparu gwasanaeth ar y rhyngrwyd i gwmnïau a sefydliadau cyhoeddus ym mhedwar ban byd.

TinopolisErbyn hyn mae’r tair adran yn aml yn gweithio gyda’i gilydd, gan fod sawl cytundeb yn gofyn i ni gynhyrchu lluniau symudol ac animeiddiedig ond wedi eu darparu ar y we fyd eang. Enghraifft o hyn yw’r gwaith mae’r cwmni newydd orffen i Awdurdod Datblygu Cymru - www.projectdynamo.com - gwefan i annog pobl ifainc i fentro i fusnes ar eu liwt eu hunain. Un o gryfderau’r cwmni yw’r gallu i weithio’n ddwyieithog, gyda mwyafrif y staff yn siarad Cymraeg a’r Gymraeg yn brif iaith y swyddfa.

TinopolisMae’r cwmni’n falch o gael ei wreiddiau yn y rhan yma o Gymru, a dyna pam y penderfynwyd ar yr enw Tinopolis - term a fathwyd gan bobl Llanelli i ddisgrifio eu tref pan oedd y diwydiant tin yn ei anterth.



 
Wales Regions

Tinopolis
*
Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, yw’r cwmni cynhyrchu teledu mwyaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain, yn ôl arolwg gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghylchrawn Broadcast.
*
*
*
*
*

*
Swyddi Gwag
*
05/08/2004
Caerdydd - Cardiff
Mae Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu ...
* * *

*
Newyddion Diweddaraf
*
24/06/2004
JobCymru yn rhoi Sir Gar ar y map
Bu Heledd Cynwal, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai sy’n dilyn rhaglen Wedi 7, yn ymweld â Ysgol y Strade, Llanelli ar ddydd Mawrth yr 22ain o Fehefin.
* * *

 

 Gorwelion - Menter a Busnes