Sgiliau Prin
Ar gyfer y newyddion diweddaraf am brinder sgiliau mewn ardal benodol cliciwch ar y map ar y dde neur linciau ar yr ochr chwith.
Er mai'r gred gyffredinol am nifer o ardaloedd Cymru yw bod prinder swyddi a dim dyfodol i bobl ifanc, mewn gwirionedd mae cyflogwyr yn dweud eu bod yn methu recriwtio bobl gyda'r sgiliau iawn ar gyfer y swyddi sydd ganddynt.
Mae arolygon yn dangos y bydd galw cynyddol am bobl gyda sgiliau yn y meysydd canlynol:
- Gwyddoniaeth
- Peirianneg
- Iechyd
- Addysg
- Manwerthu
- Swyddi rheolaeth cyffredinol
- Busnesau yn ymwneud â thwristiaeth
- Egni adnewyddadwy
Yn ogystal â'r meysydd galwedigaethol penodol uchod, mae cyflogwyr hefyd yn adrodd bod y sgiliau meddal canlynol yn bwysig iddynt a'u bod yn brin:
- Sgiliau gofal cwsmer
- Sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys cyfathrebu yn ddwyieithog
- Hyblygrwydd / gallu addasu
- Gweithio fel tîm
- Mentergarwch
- Gallu dilyn cyfarwyddiadau
Mae'n bosib i chi chwilotar bas data ar y wefan hon er mwyn canfod y sgiliau mae cyflogwyr yn dweud sydd yn brin mewn ardaloedd penodol o Gymru.
Gall Gyrfa Cymru eich helpu gyda chyngor a gwybodaeth am brinder sgiliau a chyfleoedd lleol - www.gyrfacymru.com, ac mae gwefan y Gwasanaeth Cyflogi yn cynnwys gwybodaeth am swyddi a chyfleoedd dysgu - www.worktrain.gov.uk
Ffynhonnell bwysig arall o wybodaeth yw Sgiliau Dyfodol Cymru - www.futureskillswales.com
Am fwy o wybodaeth am sgiliau dwyieithog gweler y dudalen arbennig ar y Wefan hon, ac ewch hefyd i Wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sef - www.bwrdd-yr-iaith.org.uk
Os hoffech gael gwybodaeth am ffyrdd o ddysgu sgiliau newydd cysylltwch âr Llinell Cyswllt Dysgu ar 0800 100 900.



