Canllawiau Ar-Lein JobCymru.com
Di-waith? Yn chwilio am waith?
Os ydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith ar hyn o bryd, fe allai JobCymru.com eich helpu chi drwy roi gwybodaeth am gwmnïau lleol, gan gynnwys:
- Gwybodaeth gefndirol am gwmnïau lleol
- Enwau cyswllt defnyddiol o fewn cwmnïau lleol
- Rhestr o swyddi sydd yn bodoli mewn cwmnïau lleol
- Y cymwysterau y maent yn chwilio amdanynt
- Y sgiliau a rhinweddau y maent yn rhoi gwerth arnynt
- Lefel y Gymraeg sydd ei angen
- Hyfforddiant a gynigir i staff
- Gwybodaeth am swyddi gwag
Gall y wybodaeth hon fod yn werthfawr iawn wrth ymchwilio i gwmnïau yr ydych wedi cysylltu â nhw neu gwmnïau yr hoffech chi weithio iddyn nhw. Mae hefyd yn ffordd dda o asesur math o gyfleoedd sydd ar gael yn lleol.
Chwilio am Swyddi
Gallwch chwilio am swyddi yn y Gronfa Ddata Swyddi mewn amryw ffyrdd:
Teitl Swydd - os ydych yn gwybod beth yw teitl y swydd yr hoffech yna mae modd i chwilio drwyr bas data am y swyddi syn cyfateb âr teitl e.e Cyfrifydd, Adeiladwr, Technegydd, Cyfieithydd
Allweddeiriau - er enghraifft
- Maes gwaith - e.e. Cyfieithu, Adeiladu, Cyfryngau
- Enw cwmni
- Sgiliau allweddol
Diwydiant - caiff cwmnïau eu rhannun 4 categori
- Twristiaeth & Hamdden - atyniadau, gwestai, bwytai, lleoliadau chwaraeon
- Cynhyrchu - dillad, ffenestri, bwyd
- Gwasanaeth - adeiladwyr, cyfrifyddion, trinwyr gwallt, cyfreithwyr, cynghorau, milfeddygon, banciau
- Gwerthu - siopau, modurdai, cyflenwyr adeiladwyr
Lleoliad - Dewiswch leoliad or rhestr neu gadewch yn wag er mwyn dod o hyd i swyddi o bob man o Gymru.
Cyflog - Dewiswch y cyflog yr hoffech ei ennill er mwyn gweld pa swyddi sydd ar gael yn y band cyflog yna.
Yn ôl y Gymraeg - maer swyddi wedi eu rhannu i lefelau defnydd or Gymraeg sydd ei angen ar gyfer cwblhaur gwaith yn effeithiol.
- Dim defnydd
- Defnydd ymysg y gweithlu
- Ymdrin â'r cyhoedd ar lafar
- Defnydd sylweddol, gan gynnwys gwaith gweinyddol
- Mwyafrif y gwaith drwy'r Gymraeg
Opsiwn Gweithio - Dewiswch or opsiynau gwahanol er mwyn dod o hyd i waith boddhaol o ran contract ac oriau. Y pedwar opsiwn sydd ar gael yw :
- Parhaol
- Cytundeb
- Tymhorol
- Rhan Amser
Llenwch y manylion ac arhoswch i gael gweld y swyddi sydd yn ymddangos. Yna, gallwch edrych ar fanylion pob swydd gan ddewis y swydd syn plesio fwyaf!
Chwilio Cwmnïau
Gallwch chwilio am gwmnïau yn y Gronfa Ddata Cwmnïau mewn
amryw ffyrdd:
Geiriau allweddol - er enghraifft:
- Enw cwmni
- Math o gwmni e.e. Cyfrifyddion, Gwestai, Modurdai, Ffatrïoedd. Defnyddiwch y ffurf unigol ar lluosog e.e. cyfrifydd & cyfrifyddion.
- Sgiliau a rhinweddau y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt e.e. Cyfathrebu, Gonestrwydd
- Hyfforddiant a gynigir e.e. NVQ, hyfforddiant mewnol
Categori - caiff cwmnïau eu rhannun 4 categori
- Twristiaeth & Hamdden - atyniadau, gwestai, bwytai, lleoliadau chwaraeon
- Cynhyrchu - dillad, ffenestri, bwyd
- Gwasanaeth - adeiladwyr, cyfrifyddion, trinwyr gwallt, cyfreithwyr, cynghorau, milfeddygon, banciau
- Gwerthu - siopau, modurdai, cyflenwyr adeiladwyr
Gallwch chwilior categori sydd fwyaf perthnasol i chi
Swydd - Chwiliwch am gwmnïau sydd yn cynnig swydd benodol e.e. Cogydd, Ffitiwr, Cyfrifydd
Llenwch y manylion ac arhoswch i gael gweld y cwmnïau sydd yn ymddangos. Yna, gallwch edrych ar fanylion pob cwmni neu ddewis a dethol!
Awgrymiadau Chwilio am Waith!
- Mae nifer o swyddi sydd byth yn cael eu hysbysebu felly maen werth cysylltu â chwmnïau yn uniongyrchol. Gallwch wneud hyn drwy anfon CV a llythyr, drwy godir ffôn neu drwy alw iw gweld. Gelwir y math yma o gais yn gais fentrus. Gallech ddefnyddio JobCymru.com i ganfod cyflogwyr addas i gysylltu â nhw
- Defnyddiwch eich cysylltiadau! Maen werth holi ffrindiau, teulu, cydweithwyr blaenorol, unrhyw un yr ydych yn ei adnabod ydyn nhw wedi clywed am swyddi addas sydd ar gael. Gelwir hyn yn Rhwydweithio
- Ceisiwch ddarganfod gymaint ag syn bosib am gwmni cyn cynnig am swydd, ac yn enwedig cyn cyfweliad! Cymerwch olwg i weld a yw cwmni penodol wedi ei gynnwys yn JobCymru.com.
Maen ddefnyddiol deall tueddiadau cyffredinol byd gwaith ar math o swyddi y rhagolygir iddynt gynyddu yn y dyfodol. Edrychwch ar adrannau canlynol y wefan:
- Yr Economi Leol - ble maer swyddi? Beth ywr sectorau syn tyfu?
- Prinder Sgiliau - pa sgiliau mae galw amdanynt?
- Sgiliau Dwyieithog - y Gymraeg ar gweithle
- Cysylltiadau Defnyddiol
Pwy all helpu?
Gyrfa Cymru - os teimlwch yr hoffech chi siarad am eich syniadau gyda rhywun neu ddysgu mwy am wahanol swyddi neur cyfleoedd addysg a hyfforddiant sydd ar gael, yna cysylltwch â Gyrfa Cymru. Fe allan nhw roi gwybodaeth i chi a/neu arweiniad personol gan Ymgynghorydd Gyrfa Oedolion cymwys. www.gyrfacymru.com
Y Ganolfan Byd Gwaith edrychwch ar swyddi gwag lleol a gofynnwch am gymorth wrth chwilio am waith. www.worktrain.gov.uk
Llygad Busnes os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau busnes
yna cysylltwch â Chyswllt Busnes am wybodaeth bellach a chyngor.
Ffôn: 08457 96 97 98



