Job Cymru
*
*
 

Canllawiau Ar-Lein JobCymru.com

Athrawon a Thiwtoriaid

Mae JobCymru.com yn adnodd defnyddiol i athrawon a thiwtoriaid mewn sefydliadau addysg lleol gan ei fod yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am dueddiadau’r farchnad lafur leol ar gyfer ardaloedd gwahanol o Gymru. Mae hefyd yn rhoi proffil o gyflogwyr lleol penodol o fewn 4 sector wahanol (Cynhyrchu, Gwerthu, Twristiaeth & Hamdden a Gwasanaeth)

Pryd mae defnyddio’r wefan?

  • Gwnewch y wefan yn rhan o’r Rhaglen Addysg Gyrfaoedd gyda disgyblion CA4, Blwyddyn 12/13/myfyrwyr coleg naill ai drwy ddefnyddio gwybodaeth addas i’w ddefnyddio mewn gwers neu drwy gynnal sesiwn yrfaoedd ar-lein (gweler y wybodaeth isod ar Dasgau’r Swyddiadur ar y We)
  • Er mwyn dod o hyd i gyflogwyr addas ar gyfer gweithgareddau Cyswllt Busnes Addysg
  • I’w ddefnyddio yn arf traws-gwricwlaidd e.e. mewn Daearyddiaeth, Cymraeg, Technoleg, TG & chyda myfyrwyr GNVQ neu AVCE

Mae gan yr adrannau canlynol wybodaeth ddefnyddiol a newyddion am dueddiadau cyflogaeth:

Gallwch chwilota Cronfa Ddata Cwmnïau JobCymru.com (Swyddiadur ar y We) gan ddefnyddio:

Geiriau allweddol – er enghraifft:

  • Enw cwmni
  • Math o gwmni e.e. Cyfrifyddion, Gwestai, Modurdai, Ffatrïoedd. Defnyddiwch y ffurf unigol a’r lluosog e.e. cyfrifydd & cyfrifyddion
  • Sgiliau a rhinweddau y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt e.e. Cyfathrebu, Gonestrwydd
  • Math o brofiad gwaith a gynigir e.e. Blwyddyn 10, pob oedran, coleg Addysg Bellach, Blwyddyn 12
  • Hyfforddiant a gynigir e.e. NVQ, hyfforddiant mewnol, prentisiaethau modern
  • Ardaloedd daearyddol

Categori – rhennir cwmnïau yn 4 categori

  • Twristiaeth a Hamdden – atyniadau, gwestai, bwytai, lleoliadau chwaraeon
  • Cynhyrchu – dillad, ffenestri, bwyd
  • Gwasanaeth – adeiladwyr, cyfrifyddion, trinwyr gwallt, cyfreithwyr, cynghorau, milfeddygon, banciau
  • Gwerthu – Siopau, modurdai, cyflenwyr adeiladwyr

Swydd – chwiliwch am gwmnïau sydd yn cynnig swydd benodol e.e. Cogydd, Ffitiwr, Cyfrifydd

Bydd llawer ohonoch chi eisoes yn gyfarwydd â’r Swyddiadur fel ffeil, gan fod ysgolion wedi bod yn ei ddefnyddio fel adnodd dosbarth ers sawl blwyddyn ochr yn ochr â Thasgau’r Swyddiadur (cyfres o gynlluniau gwersi wedi eu seilio ar y Swyddiadur). Fersiwn ar-lein ac wedi ei diweddaru o Swyddiaduron Gorwelion yw’r gronfa ddata cyflogwyr ar y wefan hon; mae ar yr un fformat ac yn cynnwys yr un wybodaeth. Erbyn hyn mae’r wefan wedi ehangu i gynnwys mwy o ardaloedd daearyddol a’r bwriad yw i hyn barhau er mwyn cynnwys gwybodaeth am Gymru gyfan yn y dyfodol agos.

Mae Tasgau’r Swyddiadur wedi eu diweddaru fel eu bod yn gyfredol â datblygiadau newydd ym Maes Gyrfaoedd ac Addysg

Am wybodaeth bellach ar Dasgau’r Swyddiadur, cysylltwch â’ch cwmni Gyrfa Cymru lleol neu gallwch gysylltu â Menter a Busnes drwy ddefnyddio’r ffurflen e-bost yn adran Cysylltwch â Ni y wefan hon neu e-bostio cysylltu@jobcymru.com

Isod, mae esiampl o sut y gallech chi addasu gweithgareddau o dasgau’r Swyddiadur i’w defnyddio mewn sesiwn yrfaoedd ar-lein.

pdf Cliciwch i islwytho canllaw ar-lein



 
Wales Regions

Tinopolis
*
Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, yw’r cwmni cynhyrchu teledu mwyaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain, yn ôl arolwg gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghylchrawn Broadcast.
*
*
*
*
*

*
Swyddi Gwag
*
05/08/2004
Caerdydd - Cardiff
Mae Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu ...
* * *

*
Newyddion Diweddaraf
*
24/06/2004
JobCymru yn rhoi Sir Gar ar y map
Bu Heledd Cynwal, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai sy’n dilyn rhaglen Wedi 7, yn ymweld â Ysgol y Strade, Llanelli ar ddydd Mawrth yr 22ain o Fehefin.
* * *

 

 Gorwelion - Menter a Busnes