Canllawiau Ar-Lein JobCymru.com
Rhieni
Mae rhieni yn chwarae rhan ddylanwadol iawn ym mhenderfyniadau eu mab neu ferch. Mae angen i chi annog eich mab neu ferch i ystyried yr ystod ehangaf posib o gyfleon, prun ain dewis pynciau TGAU, dod o hyd i leoliad profiad gwaith, penderfynu beth iw wneud ar ddiwedd Blwyddyn 11 neu ddewis cwrs neu leoliad hyfforddi. Caiff stereoteipiau am gyflogaeth eu ffurfion ifanc iawn, felly maen ddoeth dechrau trafod byd gwaith gydach plentyn yn gynnar yn ystod eu haddysg uwchradd.
Er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gyrfa deallus, maen hanfodol fod pobl ifainc yn gwybod beth syn digwydd ym myd gwaith yn lleol. Er enghraifft, y sgiliau ar rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, y math o swyddi sydd ar gael a sut y medrant ddatblygu sgiliau fydd o fantais iddynt wrth gynnig am swyddi.
Maer wefan hon yn ffordd ddelfrydol ich mab neu ferch ddechrau darganfod mwy am y farchnad lafur leol. Gallant ddarllen am dueddiadau cyffredinol drwy edrych ar yr adrannau canlynol:
Gallant hefyd chwilio drwyr Gronfa Ddata Cyflogwyr (Swyddiadur ar y We). Maer gronfa ddata yn cynnwys proffil cwmnïau go iawn mewn sawl ardal o Gymru. Gallant chwilio gan ddefnyddio:
Geiriau allweddol er enghraifft:
- Enw cwmni
- Math o gwmni e.e. Cyfrifyddion, Gwestai, Modurdai, Ffatrïoedd (defnyddiwch y ffurf unigol ar lluosog e.e. cyfrifydd & cyfrifyddion)
- Sgiliau a nodweddion y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt e.e. Cyfathrebu, Gonestrwydd
- Math o brofiad gwaith a gynigir e.e. Blwyddyn 10, pob oedran, colegau Addysg Bellach, Blwyddyn 12
- Hyfforddiant a gynigir e.e. NVQ, hyfforddiant mewnol, prentisiaethau modern
- Ardal ddaearyddol e.e. Y Drenewydd, Powys, Bala, Tregaron, Llanelli, Caernarfon
Categori caiff cwmnïau eu rhannun 4 categori
- Twristiaeth a Hamdden e.e. atyniadau, gwestai, bwytai, lleoliadau chwaraeon
- Cynhyrchu e.e. dillad, ffenestri, bwyd
- Gwasanaeth e.e. adeiladwyr, cyfrifyddion, trinwyr gwallt, cyfreithwyr, cynghorau, milfeddygon, banciau
- Gwerthu e.e. siopau, modurdai, cyflenwyr adeiladwyr
Swydd Chwiliwch am gwmni sydd yn cynnig swydd benodol e.e. Cogydd, Ffitiwr, Cyfrifydd
Llenwch y manylion ac arhoswch i gael gweld y cwmnïau sydd yn ymddangos. Yna, gallwch edrych ar fanylion pob cwmni neu ddewis a dethol!
Gall defnyddio JobCymru.com roi gwybod i chi ach mab neu ferch am:
- y math o gyflogwyr sydd yn eich ardal leol
- y swyddi sydd ar gael yn lleol
- y sgiliau a rhinweddau y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt
- cyflogwyr sydd yn cynnig prentisiaethau & phrofiad gwaith
- lefel y cymwysterau sydd yn ofynnol ar gyfer gwahanol swyddi
- y Gymraeg ar gweithle.
Gall y math hyn o wybodaeth eich cynorthwyo chi oll i gynllunio at y dyfodol!
Os hoffech chi gyngor ynglŷn ag opsiynau neu yrfa bosib eich mab neu ferch, yna cysylltwch â Gyrfa Cymru a siaradwch ag un ou ymgynghorwyr gyrfa cymwys. www.gyrfacymru.com



