Canllawiau Ar-Lein JobCymru.com
Am symud yn ôl i Gymru?
Ydych chin ystyried symud yn ôl ir ardal i fyw ac i weithio?
Gall y wefan hon fod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth ar eich cyfer. Am dueddiadau marchnad lafur cyffredinol mewn ardaloedd gwahanol o Gymru, edrychwch ar yr adrannau canlynol:
- Yr Economi Leol - lle mae'r swyddi? Beth yw'r sectorau sy'n tyfu?
- Prinder Sgiliau - pa sgiliau y mae gofyn amdanynt?
- Sgiliau Dwyieithog - y Gymraeg ar gweithle
Gall Cronfa Ddata Cwmnïau JobCymru.com roi:
- Rhestr o gwmnïau lleol syn cyflogi pobl gydar math o brofiad, sgiliau a chymwysterau sydd gennych chi
- Syniad or math o sgiliau a phrofiad y mae gofyn amdanynt ag unrhyw brinder sgiliau
- Ystod y gwahanol fathau o gyflogwyr o fewn ardal
- Enghreifftiau o gyflogwyr penodol mewn amryw sectorau
- Cwmnïau sydd yn cynnig gwahanol fathau o hyfforddiant iw staff
- Gwybodaeth gefndirol benodol am gwmnïau yr ydych yn ystyried cysylltu â nhw
- Enwau cyswllt defnyddiol o fewn cwmnïau penodol
Mae chwilotar gronfa ddata yn hawdd - gallwch ddefnyddio:
Geiriau allweddol - er enghraifft:
- Enw cwmni
- Math o gwmni e.e. Cyfrifyddion, Gwestai, Modurdai, Ffatrïoedd. Defnyddiwch y ffurf unigol a lluosog e.e. cyfrifydd & cyfrifyddion
- Sgiliau a nodweddion y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt e.e. Cyfathrebu, Gonestrwydd
- Hyfforddiant a gynigir e.e. NVQ, hyfforddiant mewnol, prentisiaethau modern
- Ardal ddaearyddol e.e. trefi, sir
Categori - caiff cwmnïau eu rhannun 4 categori
- Twristiaeth a Hamdden - atyniadau, gwestai, bwytai, lleoliadau chwaraeon
- Cynhyrchu - dillad, ffenestri, bwyd
- Gwasanaeth - adeiladwyr, cyfrifyddion, trinwyr gwallt, cyfreithwyr, cynghorau, milfeddygon, banciau
- Gwerthu - siopau, modurdai, cyflenwyr adeiladwyr
- Swydd - chwiliwch am gwmni sydd yn cynnig swydd benodol e.e. Cogydd, Ffitiwr, Cyfrifydd
Llenwch y manylion ac arhoswch i gael gweld y cwmnïau sydd yn ymddangos. Yna, gallwch edrych ar fanylion pob cwmni neu ddewis a dethol!
Chwilio am Swyddi
Gallwch chwilio am swyddi yn y Gronfa Ddata Swyddi mewn amryw ffyrdd:
Teitl Swydd - os ydych yn gwybod beth yw teitl y swydd yr hoffech yna mae modd i chwilio drwyr bas data am y swyddi syn cyfateb âr teitl e.e Cyfrifydd, Adeiladwr, Technegydd, Cyfieithydd
Allweddeiriau - er enghraifft
- Maes gwaith - e.e. Cyfieithu, Adeiladu, Cyfryngau
- Enw cwmni
Diwydiant caiff cwmnïau eu rhannun 4 categori
- Twristiaeth & Hamdden - atyniadau, gwestai, bwytai, lleoliadau chwaraeon
- Cynhyrchu - dillad, ffenestri, bwyd
- Gwasanaeth - adeiladwyr, cyfrifyddion, trinwyr gwallt, cyfreithwyr, cynghorau, milfeddygon, banciau
- Gwerthu - siopau, modurdai, cyflenwyr adeiladwyr
Lleoliad - Dewiswch leoliad or rhestr neu gadewch yn wag er mwyn dod o hyd i swyddi o bob man o Gymru.
Cyflog - Dewiswch y cyflog yr hoffech ei ennill er mwyn gweld pa swyddi sydd ar gael yn y band cyflog yna.
Yn ôl y Gymraeg - maer swyddi wedi eu rhannu i lefelau defnydd or Gymraeg sydd ei angen ar gyfer cwblhaur gwaith yn effeithiol.
- Dim defnydd
- Defnydd ymysg y gweithlu
- Ymdrin â'r cyhoedd ar lafar
- Defnydd sylweddol, gan gynnwys gwaith gweinyddol
- Mwyafrif y gwaith drwy'r Gymraeg
Opsiwn Gweithio - Dewiswch or opsiynau gwahanol er mwyn dod o hyd i waith boddhaol o ran contract ac oriau. Y pedwar opsiwn sydd ar gael yw :
- Parhaol
- Cytundeb
- Tymhorol
- Rhan Amser
Llenwch y manylion ac arhoswch i gael gweld y swyddi sydd yn ymddangos. Yna, gallwch edrych ar fanylion pob swydd gan ddewis y swydd syn plesio fwyaf!
Pwy all helpu?
- Llwybro-Routes. Maer cynllun hwn gan y WDA yn cadw cysylltiad gyda phobl addysgwyd yng Nghymru ac yn anfon gwybodaeth iddynt am gyfleon yn y rhanbarth. Ewch i www.llwybro-routes.co.uk a chymerwch ran yn y prosiect pwysig ac arloesol hwn.
- Cyswllt Busnes Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau busnes, yna cysylltwch â Chyswllt Busnes am wybodaeth bellach a chyngor. Ffôn: 08457 96 97 98
- Gyrfa Cymru Os hoffech chi drafod eich syniadau gyda rhywun neu ddysgu mwy am wahanol yrfaoedd neur cyfleoedd addysg a hyfforddiant sydd ar gael yn lleol, yna cysylltwch â Gyrfa Cymru. Fe allan nhw roi gwybodaeth a chyngor i chi www.gyrfacymru.com
- Edrychwch ar y dudalen cysylltiadau defnyddiol er mwyn canfod pwy arall all eich helpu chi.



