Job Cymru
*
*
 

Canllawiau Ar-Lein JobCymru.com

Wedi gadael yr Ysgol neu’r Coleg – Beth Nesaf?

Gall cyfnod gadael yr ysgol neu’r coleg fod yn amser dryslyd, yn enwedig os nad ydych chi’n gwybod beth hoffech chi ei wneud neu os oes gormod o bethau eraill yn digwydd yn eich bywyd! Fodd bynnag, mae hi wastad yn help gwybod pwy all helpu a pha wybodaeth sydd ar gael!

Gall y wefan hon eich cynorthwyo i ddarganfod:

  • Pa gwmnïau lleol sydd yn recriwtio a hyfforddi pobl ifainc
  • Pwy sydd yn cynnig profiad gwaith
  • Pa sgiliau a rhinweddau personol y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt wrth recriwtio
  • Pa gwmnïau sydd yn cynnig swyddi sydd o ddiddordeb i chi
  • Pa swyddi sydd ar gael

Gallwch chwilio Cronfa Ddata Cwmnïau JobCymru.com gan ddefnyddio:

1) Geiriau Allweddol megis:

  • Gwesty, modurdy, siop (math o gwmni). Defnyddiwch y ffurf unigol a lluosog e.e. cyfrifydd & cyfrifyddion
  • cyfathrebu, gonestrwydd (Sgiliau)
  • Profiad gwaith
  • Math o hyfforddiant e.e. NVQ, prentisiaeth fodern, hyfforddiant mewnol
  • Trefi ac ardaloedd e.e. Llandrindod, Powys, Ceredigion, Gwynedd, Caerfyrddin

2) Categori - Caiff cwmnïau eu rhannu’n 4 categori –Twristiaeth, Gwerthu, Cynhyrchu a Gwasanaeth. Fe allwch chi chwilio am bob cyflogwr yn y maes sydd yn eich diddori!

3) Swyddi - gallwch chwilio am gwmnïau sydd yn cynnig swydd benodol e.e. peiriannydd, cogydd, rheolwr, cynllunydd. Pa swyddi sydd o ddiddordeb i chi?

Llenwch y manylion ac arhoswch i gael gweld y cwmnïau sydd yn ymddangos. Yna, gallwch edrych ar fanylion pob cwmni neu ddewis a dethol!

Rhowch gynnig ar y cwis isod. Bydd yn eich helpu i ddysgu sut mae defnyddio’r Gronfa Ddata Cwmnïau.

‘Canfod y cwmni' - Cwis

  • Dewch o hyd i 4 cwmni Gwasanaeth
  • Enwch 3 chwmni sydd yn cyflogi Peiriannydd
  • Chwiliwch am 3 chwmni sydd yn cynnig Prentisiaeth
  • Dewiswch gwmni Twristiaeth a disgrifiwch eu Prif Weithgaredd (Yr hyn mae’r cwmni yn ei wneud!)
  • Chwiliwch am swydd sydd o ddiddordeb i chi a chanfyddwch pa lefel cymwysterau sydd ei angen ar ei chyfer
  • Dewch o hyd i 3 chwmni sydd yn rhoi gwerth ar staff gyda sgiliau cyfathrebu da
  • Edrychwch am 2 gwmni sydd yn cynnig profiad gwaith

Sut wnaethoch chi?

Os teimlwch bod angen cyngor neu gefnogaeth cyn penderfynu beth i’w wneud nesaf, peidiwch â phoeni, dydych chi ddim ar eich pen eich hun! Mae yna bobl all eich helpu chi.

Pwy all fy helpu i?
Gyrfa Cymru
5 rheswm da dros gysylltu â Gyrfa Cymru

  1. Er mwyn cael gwybod am yr hyfforddiant a’r swyddi gwag diweddaraf
  2. Cymorth i geisio am swyddi a hyfforddiant
  3. Cyngor un i un
  4. Er mwyn defnyddio’u llyfrgell a’u meddalwedd cyfredol
  5. Er mwyn sicrhau eich hawl i gael budd-dâl

Caiff Porth Ieuenctid ei redeg gan Gyrfa Cymru er mwyn pobl ifainc fel chi; bydd y cwrs yn:

  • Cynnig cefnogaeth unigol beth bynnag yr hoffech chi gymorth ag ef
  • Eich cynorthwyo i gwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd
  • Adeiladu eich hyder a sgiliau
  • Eich cynorthwyo i ddod o hyd i brofiad gwaith
  • Cyfle i roi cynnig ar bethau newydd e.e. gweithgareddau awyr agored, gwneud fideo

Edrychwch ar www.gyrfacymru.com er mwyn gweld ble mae’r ganolfan yrfaoedd agosaf atoch chi!



 
Wales Regions

Tinopolis
*
Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, yw’r cwmni cynhyrchu teledu mwyaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain, yn ôl arolwg gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghylchrawn Broadcast.
*
*
*
*
*

*
Swyddi Gwag
*
05/08/2004
Caerdydd - Cardiff
Mae Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu ...
* * *

*
Newyddion Diweddaraf
*
24/06/2004
JobCymru yn rhoi Sir Gar ar y map
Bu Heledd Cynwal, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai sy’n dilyn rhaglen Wedi 7, yn ymweld â Ysgol y Strade, Llanelli ar ddydd Mawrth yr 22ain o Fehefin.
* * *

 

 Gorwelion - Menter a Busnes