Job Cymru
*
*
 

Canllawiau Ar-Lein JobCymru.com

Newid Gyrfa?

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn newid swydd tua 8 gwaith yn ystod eu hoes. Felly os ydych chi’n meddwl Newid Gyrfa, nid chi yw’r unig un! Mae’n benderfyniad pwysig ac mae hi felly’n hanfodol fod gennych chi’r wybodaeth er mwyn gallu gwneud dewis cytbwys.

Gall defnyddio JobCymru.com eich helpu i ddarganfod:

  • Pa fath o gwmnïau sy’n bodoli yn lleol
  • Pa swyddi sydd ar gael mewn cwmnïau lleol
  • Prinder sgiliau o safbwynt cyflogwyr lleol
  • Pa swyddi sydd ar gael sydd yn cyd-fynd â’ch sgiliau, profiad a lefel cymwysterau
  • Defnydd o’r Gymraeg gan gyflogwyr lleol
  • Y math o hyfforddiant a gynigir gan wahanol gyflogwyr

Gall pob un o’r ffactorau hyn eich helpu i benderfynu ar y math o yrfa y dylech ei hystyried neu roi syniad i chi o’r galw sydd yna am swyddi sydd yn eich diddori.

Chwilio am Gwmnïau
Gallwch chwilio’r Gronfa Ddata Cwmnïau gan ddefnyddio:

Geiriau allweddol - er enghraifft:

  • Enw cwmni
  • Math o gwmni e.e. Cyfrifyddion, Gwestai, Modurdai, Ffatrïoedd. Defnyddiwch y ffurf unigol a’r lluosog e.e. cyfrifydd & cyfrifyddion
  • Sgiliau a rhinweddau y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt e.e. Cyfathrebu, Gonestrwydd
  • Hyfforddiant a gynigir e.e. NVQ, hyfforddiant mewnol, prentisiaethau modern
  • Ardaloedd daearyddol e.e. tref, sir

Categori – caiff cwmnïau eu rhannu yn 4 categori

  • Twristiaeth a Hamdden - atyniadau, gwestai, bwytai, lleoliadau chwaraeon
  • Cynhyrchu - dillad, ffenestri, bwyd
  • Gwasanaeth - adeiladwyr, cyfrifyddion, trinwyr gwallt, cyfreithwyr, cynghorau, milfeddygon, banciau
  • Gwerthu - Siopau, modurdai, cyflenwyr adeiladwyr
  • Swydd - chwiliwch am gwmnïau sydd yn cynnig swydd benodol e.e. Cogydd, Ffitiwr, Cyfrifydd

Llenwch y manylion ac arhoswch i gael gweld y cwmnïau sydd yn ymddangos. Yna, gallwch edrych ar fanylion pob cwmni neu ddewis a dethol!

Chwilio am Swyddi
Gallwch chwilio am swyddi yn y Gronfa Ddata Swyddi mewn amryw ffyrdd:

Teitl Swydd - os ydych yn gwybod beth yw teitl y swydd yr hoffech yna mae modd i chwilio drwy’r bas data am y swyddi sy’n cyfateb â’r teitl e.e Cyfrifydd, Adeiladwr, Technegydd, Cyfieithydd

Allweddeiriau - er enghraifft

  • Maes gwaith - e.e. Cyfieithu, Adeiladu, Cyfryngau
  • Enw cwmni

Diwydiant - caiff cwmnïau eu rhannu’n 4 categori

  • Twristiaeth & Hamdden - atyniadau, gwestai, bwytai, lleoliadau chwaraeon
  • Cynhyrchu - dillad, ffenestri, bwyd
  • Gwasanaeth - adeiladwyr, cyfrifyddion, trinwyr gwallt, cyfreithwyr, cynghorau, milfeddygon, banciau
  • Gwerthu - siopau, modurdai, cyflenwyr adeiladwyr

Lleoliad - Dewiswch leoliad o’r rhestr neu gadewch yn wag er mwyn dod o hyd i swyddi o bob man o Gymru.

Cyflog - Dewiswch y cyflog yr hoffech ei ennill er mwyn gweld pa swyddi sydd ar gael yn y band cyflog yna.

Yn ôl y Gymraeg - mae’r swyddi wedi eu rhannu i lefelau defnydd o’r Gymraeg sydd ei angen ar gyfer cwblhau’r gwaith yn effeithiol.

  1. Dim defnydd
  2. Defnydd ymysg y gweithlu
  3. Ymdrin â'r cyhoedd ar lafar
  4. Defnydd sylweddol, gan gynnwys gwaith gweinyddol
  5. Mwyafrif y gwaith drwy'r Gymraeg

Opsiwn Gweithio - Dewiswch o’r opsiynau gwahanol er mwyn dod o hyd i waith boddhaol o ran contract ac oriau. Y pedwar opsiwn sydd ar gael yw :

  • Parhaol
  • Cytundeb
  • Tymhorol
  • Rhan Amser

Llenwch y manylion ac arhoswch i gael gweld y swyddi sydd yn ymddangos. Yna, gallwch edrych ar fanylion pob swydd gan ddewis y swydd sy’n plesio fwyaf!

Pwy all helpu?
Gyrfa Cymru - Os teimlwch yr hoffech chi siarad am eich syniadau gyda rhywun neu ddysgu mwy am wahanol swyddi neu’r cyfleoedd addysg a hyfforddiant sydd ar gael, yna cysylltwch â Gyrfa Cymru. Fe allan nhw roi gwybodaeth i chi a/neu arweiniad personol gan Ymgynghorydd Gyrfa Oedolion cymwys. www.gyrfacymru.com

Llygad Busnes - Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau busnes yna cysylltwch â Chyswllt Busnes am wybodaeth bellach a chyngor.
Ffôn: 08457 96 97 98



 
Wales Regions

Tinopolis
*
Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, yw’r cwmni cynhyrchu teledu mwyaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain, yn ôl arolwg gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghylchrawn Broadcast.
*
*
*
*
*

*
Swyddi Gwag
*
05/08/2004
Caerdydd - Cardiff
Mae Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu ...
* * *

*
Newyddion Diweddaraf
*
24/06/2004
JobCymru yn rhoi Sir Gar ar y map
Bu Heledd Cynwal, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai sy’n dilyn rhaglen Wedi 7, yn ymweld â Ysgol y Strade, Llanelli ar ddydd Mawrth yr 22ain o Fehefin.
* * *

 

 Gorwelion - Menter a Busnes