Job Cymru
*
*
 

Economi Sir Gaerfyrddin

Amrywiaeth Daearyddol
Sir wledig ac amrywiol yw Sir Gaerfyrddin – a’r drydedd fwyaf yng Nghymru gan orchuddio bron i 12% o dirfas y wlad. Mae amrywiaeth a chyferbyniad cyfoethog iawn i’r sir, o ardaloedd gwledig y gogledd a’r gorllewin (ardaloedd prin eu poblogaeth) i ardaloedd mwy poblog y de a’r arfordir – ardaloedd Llanelli a Chaerfyrddin.

caermarthen

Yr Iaith Gymraeg
Mae’r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o fusnes a diwylliant Sir Gaerfyrddin, ac mae’r sir yn gartref i fwy o siaradwyr Cymraeg na’r un arall. Mae’r nifer cynyddol o ganolfannau gweinyddol tu allan i’r brifddinas yn rhoi cyfle cyffrous iawn i Sir Gaerfyrddin harneisio’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle; gan gynyddu cyfleon gwaith Cymraeg trigolion y sir, yn ogystal ac annog pobl ifainc i aros yn y sir neu i ddychwelyd.

Cyfleon Gwaith
Yn draddodiadol, mae gwaith yn y sir wedi dibynnu ar y diwydiant glo, prosesu metal, gweithgynhyrchu ac amaeth. Er fod 17% o gyfanswm daliadau amaethyddol Cymru yn Sir Gaerfyrddin, mae’r sir wedi cofleidio newid yn strwythur cyflogaeth, gyda chyfleon newydd yn codi mewn sawl maes – megis y sector cyhoeddus, gwaith ym myd addysg a iechyd, a sector twf sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, gan gynnwys gwestai a thai bwyta.

Mae’r sir hefyd wedi cofleidio sectorau technoleg newydd ac mae cyfleon gwaith ar gael mewn sectorau megis y cyfryngau a’r sector amlgyfrwng. Un o’r cyflogwyr mwyaf yn y sectorau hyn yw Tinopolis, Agenda gynt, sydd wedi eu lleoli yn Llanelli ac sy’n un o’r cwmnïau cynhyrchu teledu ac aml-gyfrwng annibynnol mwyaf yng Nghymru.

Mae Ffigwr 1 isod yn dangos prif sectorau gwaith Sir Gaerfyrddin:

Ffigwr 1: Swyddi yn ôl Diwydiant, Sir Gaerfyrddin 2000

Ffigwr 1: Swyddi yn ôl Diwydiant, Sir Gaerfyrddin 2000

Twristiaeth
Mae Sir Gaerfyrddin yn gyfoethog dros ben mewn hanes, ac mae ystod eang o weithgareddau a chyfleon diwylliannol i’w cael yma; o gestyll Cymreig a Normanaidd i drefi marchnad ac amgueddfeydd megis Amgueddfa Diwydiant Gwlân Cymru. Nid oes syndod fod Sir Gaerfyrddin, gydag 20 milltir o draethau, Traeth Cefn Sidan a Pharc Gwledig Pembre, yn denu nifer cynyddol o swyddi sy’n gysylltiedig â thwristiaeth. Mae gan Sir Gaerfyrddin hefyd gasgliad heb ei ail o erddi hyfryd, gan gynnwys Gardd Fotaneg Cymru a Gerddi Aberglasne. Er gwaetha’r problemau diweddar gyda’r Ardd Fotaneg Cymru mae ei gyfraniad at ennill enw ‘Gardd Gymru’ i’r sir yn parhau. Yn Sir Gâr y ceir hefyd Canolfan Gwlyptir Cenedlaethol Cymru, sydd ar flaen y gâd ym maes cadwraeth gwlyptir yng Nghymru.

caermarthen castle

O ganlyniad i weddnewid 22km o wastadedd diwydiannol, diffaith arfordirol, creëwyd un o atyniadau twristaidd cynialadwy diweddaraf y sir – Parc Arfordir y Mileniwm. Mae’r parc eisoes wedi creu brwdfrydedd mawr ymysg ymwelwyr a disgwylir iddo ddenu miliwn o ymwelwyr yn flynyddol.

Ym Medi 2003, cyrhaeddodd Ty Llanelli rowndiau terfynol rhaglen Restoration y BBC. Er na fu’n fuddugol yn y bleidlais derfynol, mae dal cynlluniau i adfer yr adeilad - ty tref hynaf Cymru, ac mae’n debyg y daw’n ffocws i gynlluniau ar gyfer adfywio sylweddol yn nhref Llanelli. Mae cynnig gwerth £5m hefyd wedi ei wneud i ddod â threnau stêm yn ôl i Gaerfyrddin, ac os yw’n llwyddiannus, bydd yn atyniad ymwelwyr sylweddol i’r ardal, gan ddod â nifer o swyddi ychwanegol, siopau, caffe a maes parcio ar gyfer bysiau.

Busnesau Bychain
Mae cyfradd di-weithdra’r sir yn is na’r cyfartaledd, ac mae ynddi nifer uchel iawn o gwmnïau bychain, gyda llawer yn cyflogi llai na 10 o weithwyr. Mae hyn yn adlewyrchu’r ystod eang o gyfleon cynyddol i fusnesau newydd ac arloesol o fewn yr ardal. Bydd menter £100m Band Eang Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru yn cryfhau’r cyfleon hyn, gan alluogi’r ystod gyfan o werthiant e-fasnach ac felly gwneud Sir Gaerfyrddin yn lleoliad deniadol er mwyn tyfu mentrau newydd.

Cyfleon Gwaith y Dyfodol
Mae rhagolygon sector yn rhagweld y bydd ffocws cyflogaeth Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol yn gynyddol ar sectorau galwedigaethol proffesiynol sy’n talu’n dda, megis rheolwyr, gweinyddwyr, meddygon, peirianwyr, a thechnegwyr. Mae’r sector gwasanaethau personol, sy’n cynnwys gweithwyr gofal, a’r sectorau mân-werthu ac adeiladu hefyd yn debygol o gynyddu, ac mae gan y Cyngor gynlluniau ar hyn o bryd i fuddsoddi tua £450m yn yr ardal er mwyn cynorthwyo i greu swyddi o ansawdd, sy’n talu’n dda.

Cynlluniau a Chyfleon
Yn ogystal â’r cyfleon cynyddol mewn sectorau newydd megis twristiaeth, bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn cael budd o gynllun adfywio gwledig gwerth £230m, a gyhoeddwyd yn ystod Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2003. Bydd cynllun Sir Gaerfyrddin, gyhoeddwyd gan Weinidog Adfywio Cymru, Edwina Hart, yn creu 2,500 o swyddi ychwanegol ac yn diogelu 500 o swyddi pellach o fewn y sir. Mae’r prif fentrau yn cynnwys £10m ar gyfer parc bwyd yn Cross Hands, a grantiau gwerth £5.8m i gefnogi gwelliannau amgylcheddol a threfol a newid adeiladau yn yr ardal. Mae’r datblygiadau hyn yn arwydd o economi sy’n tyfu a newid, a bydd hyn yn ei dro yn dod â gwaith a gweithgareddau hamdden newydd ac arloesol i’r sir.

Addysg
O ran addysg, mae gan Sir Gaerfyrddin record gref, ac mae’n perfformio’n well na’r cyfartaledd Cymreig mewn sawl maes, gan gynnwys cyrhaeddiad TGAU. Mae cyfran y boblogaeth sydd â gradd hefyd yn cymharu’n ffafriol â’r cyfartaledd Cymreig, ac mae nifer o sefydliadau addysg uwch a phellach yn gefn i hyn, gan gynnwys Coleg y Drindod, Coleg Sir Gâr, a Cholegau Prifysgol Cymru Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan.

caermarthen field

Ansawdd Bywyd
Mae poblogaeth isel yn ogystal ag amrywiaeth sylweddol mewn diwylliant a hamdden yn gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle deniadol iawn i fyw. Gyda buddsoddiad cynyddol er mwyn creu swyddi o ansawdd, a chynlluniau am ddatblygiadau twristiaeth megis cwrs golff a chwrs rasio ceffylau yn yr ardal, mae Sir Gaerfyrddin yn amrywio’i economi, gan gynnig cyfleon i harneisio sgiliau newydd yn y swyddi a ddaw.

Cefnogir jobcymru gan yr Asiantaeth Iaith
yr Asiantaeth Iaith



 
Wales Regions
Cliciwch ar y map i weld ardal

Tinopolis
*
Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, yw’r cwmni cynhyrchu teledu mwyaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain, yn ôl arolwg gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghylchrawn Broadcast.
*
*
*
*
*

*
Swyddi Gwag
*
05/08/2004
Caerdydd - Cardiff
Bydd y swydd hon yn gyfrifol am weithredu’r ...
* * *

*
Newyddion Diweddaraf
*
24/06/2004
JobCymru yn rhoi Sir Gar ar y map
Bu Heledd Cynwal, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai sy’n dilyn rhaglen Wedi 7, yn ymweld â Ysgol y Strade, Llanelli ar ddydd Mawrth yr 22ain o Fehefin.
* * *

 

 Gorwelion - Menter a Busnes