Job Cymru
*
*
 

Sgiliau Dwyieithog

Mae cyflogwyr Cymru yn rhoi gwerth mawr ar sgiliau dwyieithog, yn ôl ymchwil jobcymru. Wrth holi 300 o gyflogwyr yng Ngheredigion, Powys a Meirionnydd am eu gofynion ac anghenion sgiliau yn ddiweddar, atebodd 70% ohonynt eu bod yn ddelfrydol yn dymuno bobl a allai gynnig dwyieithrwydd yn sgil gwaith ar gyfer rhai o’r swyddi yn eu cwmnïau.

Mae yna nifer o resymau pam fod cyflogwyr yn hoffi gallu cynnig dewis iaith

  • Gofal y cwsmer – mae cwsmeriaid yn hoffi cael dewis iaith ac mae cwmnïau yn sylweddoli mai drwy blesio’r cwsmer mae llwyddo mewn busnes
  • Ansawdd gwasanaeth – ar gyfer pob math o wasanaeth mae gallu cyfathrebu yn ddwyieithog yn gallu hwyluso’r gwaith a gwella ansawdd e.e. Iechyd, Heddlu ac ati
  • Deddf yr Iaith Gymraeg, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol bellach i gwmnïau yn y sector cyhoeddus gael polisïau iaith Gymraeg.

"Mae’r amgylchiadau pryd y mae bobl yn cwrdd â’r heddlu yn aml o dan straen a phwysau. O dan y fath amgylchiadau mae’r angen i dderbyn gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu bod yn bwysig iawn. Mae hefyd yn gwella’r berthynas rhwng yr heddlu a’r cyhoedd ac yn gwneud i bobl deimlo yn fwy cyfforddus."

Prif Uwch Arolygydd John Lewis , Pennaeth CID
Heddlu Dyfed Powys

Defnyddiwch eich sgiliau dwyieithog – gallant fod o help i chi ym myd gwaith.

Mae cyflogwyr yn dymuno sgiliau dwyieithog ar wahanol lefelau – rhai yn gofyn am sgiliau ysgrifenedig da yn ogystal â sgiliau llafar, ac eraill yn gofyn dim ond am gyfathrebu gweddol syml ar lafar.

  • Lefel 1 – dim defnydd
  • Lefel 2 – peth defnydd e.e. ymysg y gweithlu
  • Lefel 3 – cyfathrebu ar lafar â’r cyhoedd
  • Lefel 4 – defnydd helaeth yn cynnwys defnydd ysgrifenedig
  • Lefel 5 – rhan fwyaf o’r gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae yna brinder o bobl gyda sgiliau dwyieithog ar gyfer y swyddi canlynol:

  • Gwaith Cymdeithasol
  • Deintyddiaeth
  • Yr Heddlu
  • Nyrsio – yn enwedig Gofal Iechyd Meddwl
  • Therapyddion Lleferydd a Therapyddion Iaith
  • Ffisiotherapi
  • Radiograffeg
  • Cyngor Gyrfaoedd
  • Dysgu, yn enwedig CDT, Ffiseg a Mathemateg
  • Technoleg Darlledu
  • Cyllid
  • Rheoli Gweinyddol
  • Rheoli Busnes
  • Llywodraeth Leol – yn enwedig meysydd Technoleg, Cyllid a Iechyd yr Amgylchedd
  • Arlwyo a’r diwydiant croeso
  • Dylunio graffeg

Edrychwch yn eich papur newydd lleol er mwyn cael gweld cymaint o gyflogwyr sydd yn hysbysebu swyddi yn ddwyieithog neu yn dweud bod sgiliau Cymraeg yn fanteisiol, yn ddymunol neu’n hanfodol ar gyfer ymgeisio am swyddi o bob math.

Hefyd, chwilotwch ym mas-data’r safle hon am gwmnïau sydd yn dweud eu bod yn cyflogi bobl sydd yn defnyddio’r Gymraeg yn sgil gwaith ar wahanol lefelau.



 
Wales Regions

Tinopolis
*
Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, yw’r cwmni cynhyrchu teledu mwyaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain, yn ôl arolwg gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghylchrawn Broadcast.
*
*
*
*
*

*
Swyddi Gwag
*
29/07/2004
Aberystwyth
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod ...
* * *

*
Newyddion Diweddaraf
*
24/06/2004
JobCymru yn rhoi Sir Gar ar y map
Bu Heledd Cynwal, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai sy’n dilyn rhaglen Wedi 7, yn ymweld â Ysgol y Strade, Llanelli ar ddydd Mawrth yr 22ain o Fehefin.
* * *

 

 Gorwelion - Menter a Busnes