Job Cymru
*
*
 

Amdanom Ni

Un o gynlluniau Menter a Busnes yw jobcymru a jobcymru.com.

I’r rhai ohonoch sydd eisoes yn ymwybodol o waith Menter a Busnes, Gorwelion ar ei newydd wedd yw jobcymru. Amcan jobcymru yw i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yn dymuno gweithio mewn sectorau gwaith lle mae angen sgiliau dwyieithog. Mae jobcymru yn gwneud hyn drwy gyflwyno gwybodaeth am sgiliau angenrheidiol a chyfleoedd gwaith a hyfforddiant yn y farchnad lafur leol a chenedlaethol. Mae'r galw am sgiliau dwyieithog yn cynyddu ond nid yw bob amser yn hawdd recriwtio bobl â'r sgiliau iawn fodd bynnag, a dyma ble mae jobcymru yn gallu helpu.

Un o brif brosiectau jobcymru yw'r Swyddiadur. Cynhyrchwyd 8 Swyddiadur hyd yma – ym Môn, Gwynedd, Ceredigion, Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Llanelli, a Thaf Elái. Ffeiliau yn cynnwys sampl o gyflogwyr yr ardal yw'r Swyddiadur, gyda llawer o wybodaeth am bob cyflogwr. Defnyddir hwy, ynghyd â Thasgau'r Swyddiadur, sef cyfres o wersi dosbarth ar gyfer yr athro, mewn ysgolion uwchradd fel rhan o raglen addysg yrfaoedd. Mae’r bas data sydd ar y wefan hon yn seiliedig ar y Swyddiadur – sef y Swyddiadur ar y We. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y Swyddiadur neu Dasgau’r Swyddiadur, e-bostiwch jobcymru ar cysylltu@jobcymru.com



 
Tinopolis
*
Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, yw’r cwmni cynhyrchu teledu mwyaf ym Mhrydain y tu allan i Lundain, yn ôl arolwg gynhaliwyd yn ddiweddar yng nghylchrawn Broadcast.
*
*
*
*
*

*
Swyddi Gwag
*
29/07/2004
Aberystwyth
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod ...
* * *

*
Newyddion Diweddaraf
*
24/06/2004
JobCymru yn rhoi Sir Gar ar y map
Bu Heledd Cynwal, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai sy’n dilyn rhaglen Wedi 7, yn ymweld â Ysgol y Strade, Llanelli ar ddydd Mawrth yr 22ain o Fehefin.
* * *

 

 Gorwelion - Menter a Busnes